Nid yw Dyddiadau Tymor Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yr un fath â'r rhai yn PDC. Os ydych yn ansicr ynghylch pryd mae'ch tymor yn cychwyn, cysylltwch â'r coleg trwy [email protected] i gael gwybodaeth am ddyddiad cychwyn.
Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru drwy Goleg Penybont, mae'r dudalen hon yn rhoi'r holl gysylltiadau y bydd angen i chi eu defnyddio yn ystod eich amser ar y cwrs. Ymhellach i lawr, gallwch hefyd ddod o hyd i drosolwg o'r cyfrifoldebau a'r cysylltiadau yn y ddau sefydliad.
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchu Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirio
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirio Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirio ar gyfer eich cwrs.
Cofrestru PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC gofrestru gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw briff i rheoliadau a gweithdrefnau prifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr o PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, cymwysiadau Office a mwy.
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
Porth Myfyrwyr
Porth myfyrwyr Coleg Penybont.
Addysg Uwch
Gwybodaeth i fyfyrwyr Addysg Uwch Coleg Penybont.
Canolfan Llwyddiant
Gall ein Hyfforddwyr Sgiliau eich helpu i roi hwb i'ch Sgiliau Astudio, megis llythrennedd, rhifedd, Cymraeg ac ymarferiadau adolygu.
Tîm Addysg Uwch
Tîm AU yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwneud cais, derbyn, cofrestru a chyngor cyllid.
Llesiant
Cysylltwch â'r tîm Llesiant i gael cyngor a chymorth personol.
Cymorth Arbenigol
Bydd y tîm cymorth arbenigol yn gallu cynnig help a chyngor os oes gennych anabledd neu ofyniad ychwanegol.
E-bost
Fel myfyriwr yng Ngholeg Penybont, bydd gennych gyfrif e-bost Coleg Penybont i gael mynediad at holl gymwysiadau Google suite gan gynnwys Gmail, Google Drive a Classrooms.
I fewngofnodi, defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost fel yr enw defnyddiwr (h.y. [email protected]).
Cofrestrwch ar gyfer Hunanwasanaeth Cyfrinair Ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer Hunanwasanaeth Cyfrinair fel y gallwch newid eich cyfrinair ar-lein os byddwch chi'n ei anghofio yn y dyfodol.
Ailosod eich Cyfrinair
I newid neu ailosod eich cyfrinair anghofiedig, gallwch wneud hyn ar-lein.
Graddio
Os cwblhewch eich astudiaethau yn llwyddiannus yng Ngholeg Penybont, fe'ch gwahoddir i fynychu seremonïau graddio'r Coleg.
Cynrychiolwyr a Llysgenhadon Myfyrwyr
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i gynrychioli'ch cyd-fyfyrwyr a Choleg Penybont?
Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
Oes gennych chi gwestiwn am wasanaethau PDC?
E-bost: [email protected].
Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma’r hyn y bydd Coleg Penybont yn ei wneud i chi: