Myfyrwyr PDC yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

USW & CAVC

Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru drwy Goleg Caerdydd a’r Fro mae'r dudalen hon yn rhoi'r holl gysylltiadau y bydd angen i chi eu defnyddio yn ystod eich amser ar y cwrs. Ar ôl y cysylltiadau fe welwch drosolwg o'r cyfrifoldebau a'r cysylltiadau ar gyfer y ddau sefydliad.

Cysylltiadau Gwe PDC

USW Icons

Astudio

UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.

Llyfrgell PDC
Cyrchu Adnoddau Llyfrgell PDC.

Cyfeirio
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirio Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirio ar gyfer eich cwrs.

Cofrestru PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC gofrestru gyda Phrifysgol De Cymru.  Gallwch wneud hyn ar-lein.

Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.

Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.

Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.

Gwaith Achos Myfyrwyr

Canllaw briff i rheoliadau a gweithdrefnau prifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.

Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.

Cyngor a Gwasanaethau

Ardaloedd Cynghori PDC

Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.

Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.

Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.

Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.

Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.

y Rhyngrwyd a TG

Ailosod eich cyfrinair PDC

Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.

Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr o PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, cymwysiadau Office a mwy.

Cynrychiolaeth

Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.

Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

Cysylltiadau Coleg Caerdydd a’r Fro

CAVC Web Links

Astudio

Eich Cyrsiau ar Moodle
Os yw'ch tiwtoriaid yn defnyddio Moodle ar gyfer deunyddiau dysgu, fe welwch nhw yma.

Adnoddau Llyfrgell
Peidiwch ag anghofio edrych am e-lyfrau yn ogystal â chatalog y llyfrgell o lyfrau papur.


Cyngor a Gwasanaethau

Gwasanaethau Myfyriwr
Os oes gennych unrhyw broblem neu gwestiwn, bydd Gwasanaethau Cwsmeriaid CAVC yn gallu cynnig cyngor a chymorth i chi.

Gyrfaoedd a Syniadau
Mae Gyrfaoedd a Syniadau yno i helpu myfyrwyr CAVC gydag unrhyw ymholiadau cyngor gyrfaoedd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol
Darganfyddwch sut y gall y Coleg gefnogi dysgwyr ag anableddau, nam ar y synhwyrau, cyflyrau sbectrwm awtistig neu faterion iechyd meddwl.

Rhyngwladol
Mae Coleg Rhyngwladol Caerdydd a’r Fro yn cynnig rhaglen gymorth amser llawn i'n dysgwyr.

Polisïau a Gweithdrefnau
Ar gyfer unrhyw beth nad yw'n fater academaidd, mae polisïau a gweithdrefnau CAVC yn berthnasol i chi. Ar gyfer materion academaidd, mae polisïau a gweithdrefnau PDC yn berthnasol.

Llesiant

Diogelu

Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL)


y Rhyngrwyd a TG

Eich Cyfrif E-bost CAVC
Fel myfyriwr wedi'i leoli yn CAVC, mae gennych gyfrif personol Office 365, sy'n cynnwys cyfrif e-bost Outlook a mwy.

Ailosod eich Cyfrinair CAVC
Bydd yn rhaid i chi wneud hyn o leiaf unwaith bob 100 diwrnod (ac os byddwch chi'n anghofio'ch cyfrinair).


Cynrychiolaeth

Llais y Dysgwr
Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed a darganfod beth wnaeth CAVC mewn ymateb i'ch adborth.

Undeb y Myfyrwyr
Yn eich cynrychioli chi.

Prifysgol De Cymru

Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Rydym yn achredu'ch cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
    • Amgylchiadau Esgusodol a Pholisi Addasrwydd i Sefyll
    • Toriad ar Astudio
    • Cwynion ac apeliadau academaidd
  • Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n terfynoli graddau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
  • Gallwch gyrchu ein hadnoddau llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storio trwy Office 365.
  • Rydym yn rheoli eich canlyniadau diwedd blwyddyn.
  • Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio


Oes gennych chi gwestiwn am wasanaethau PDC?
E-bost: [email protected].


Coleg Caerdydd a’r Fro

Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
  • Bydd ein Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
  • Rydym yn gweinyddu cynllun Bwrsariaethau AU CAVC.
  • Gallwch gyrchu ein hadnoddau llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG CAVC.
    • mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr trwy Office365.com.

Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau CAVC? E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 02920 250250.