Myfyrwyr PDC yng Ngholeg Gwent

Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru drwy Goleg Gwent, mae'r dudalen hon yn rhoi rhestr i chi o'r holl gysylltiadau y bydd angen i chi eu defnyddio yn ystod eich amser ar y cwrs. Ymhellach i lawr, gallwch hefyd ddod o hyd i drosolwg o'r cyfrifoldebau a'r cysylltiadau yn y ddau sefydliad.

Cysylltiadau Gwe PDC

USW Icons

Astudio

UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.

Llyfrgell PDC
Cyrchu Adnoddau Llyfrgell PDC.

Cyfeirio
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirio Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirio ar gyfer eich cwrs.

Cofrestru PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC gofrestru gyda Phrifysgol De Cymru.  Gallwch wneud hyn ar-lein.

Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.

Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.

Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.

Gwaith Achos Myfyrwyr

Canllaw briff i rheoliadau a gweithdrefnau prifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.

Graddio PDC

Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.

Cyngor a Gwasanaethau

Ardaloedd Cynghori PDC

Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.

Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.

Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.

Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.

Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.

y Rhyngrwyd a TG

Ailosod eich cyfrinair PDC

Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.

Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr o PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, cymwysiadau Office a mwy.

Cynrychiolaeth

Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.

Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

Cysylltiadau Gwe Coleg Gwent

coleg-gwent-pc-students-header

Astudio

CG Connect
Mae holl ddysgwyr Coleg Gwent yn cyrchu eu hadnoddau trwy CG Connect.  Mae'r cyswllt hwn yn darparu mynediad i Canvas - ein gwefan ddysgu rithwir, Office 365 a chysylltiadau i Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth.

Cynrychiolaeth

Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent
Rydym yn ymgyrchu ar unrhyw faterion sydd gennych, yn eich helpu mewn unrhyw gwynion neu ddisgyblu, yn ymladd dros eich hawliau ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar fyfyrwyr.


Prifysgol De Cymru

Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Rydym yn achredu'ch cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
    • Amgylchiadau Esgusodol a Pholisi Addasrwydd i Sefyll
    • Toriad ar Astudio
    • Cwynion ac apeliadau academaidd
  • Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n terfynoli graddau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
  • Gallwch gyrchu ein hadnoddau llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storio trwy Office 365.
  • Rydym yn rheoli eich canlyniadau diwedd blwyddyn.
  • Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio

Oes gennych chi gwestiwn am wasanaethau PDC?
E-bost: [email protected].

Coleg Gwent

Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
  • Bydd ein Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
  • Gallwch gyrchu ein hadnoddau llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG Coleg Gwent,
    • mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr drwy Office365.com

Telerau ac amodau.


Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau Coleg Gwent? Cysylltwch â'r Cynorthwywyr Gwasanaethau Myfyrwyr yn eich derbynfa campws, neu [email protected].