Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru drwy Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae'r dudalen hon yn rhoi'r holl gysylltiadau y bydd angen i chi eu defnyddio yn ystod eich amser ar y cwrs. Ymhellach i lawr, gallwch hefyd ddod o hyd i drosolwg o'r cyfrifoldebau a'r cysylltiadau yn y ddau sefydliad.
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchu Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirio
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirio Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirio ar gyfer eich cwrs.
Cofrestru PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC gofrestru gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw briff i rheoliadau a gweithdrefnau prifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr o PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, cymwysiadau Office a mwy.
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
Moodle
Mae gan CGA ei Amgylchedd Dysgu Rhithwir ei hun - Moodle. Gallwch ei ddefnyddio i gyrchu adnoddau, uwchlwytho aseiniadau, cwblhau asesiadau a sgwrsio â dysgwyr eraill a darlithwyr gan ddefnyddio’r fforymau.
Llyfrgell
Mae Ymgynghorydd ymroddedig a phrofiadol gan y Llyfrgell AU sy’n gweithio’n agos gyda’r tîm Cwricwlwm i sicrhau bod cymorth ac adnoddau ar gael drwy gydol eich cwrs. Mae’r Ymgynghorydd AU wrth law i’ch helpu gyda phob agwedd ar eich astudiaethau yn y Llyfrgell a gallwch drefnu apwyntiad gyda’r Ymgynghorydd i gael cymorth un-i-un.
Cymorth i Fyfyrwyr
Yn ogystal â’ch Tiwtor Personol, mae gan y Coleg dîm ymroddedig o Swyddogion Cymorth Myfyrwyr ac Ymgynghorwyr Iechyd sy’n gallu cynnig help a chymorth ar nifer o faterion sy’n effeithio ar eich astudiaethau.
Cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n Gadael Gofal.
Cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol
Rydym yn cynnig cyngor i fyfyrwyr â gwahaniaethau dysgu penodol gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia ac ADHD er enghraifft, ar sut i gael cymorth arbenigol priodol, addasiadau rhesymol ar gyfer arholiadau, sgrinio ac asesiadau ynghyd â chanllawiau ar y broses o wneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
https://www.gcs.ac.uk/cy/higher-education#HE-Support
https://www.gcs.ac.uk/cy/aln
Diogelu
Mae Diogelu yn ymwneud â chadw ein dysgwyr yn ddiogel a’u hamddiffyn rhag niwed, camdriniaeth, bwlio ac ati. Mae manylion ein swyddogion diogelu ar gael gan ddefnyddio’r cod QR ar gefn eich cerdyn adnabod. Gallwch ddefnyddio’r cod hwn hefyd i gael cymorth brys y tu allan i oriau yn ystod y nos, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau.
Dyletswydd Prevent
Mae Dyletswydd Prevent yn ddeddfwriaeth y mae’n rhaid i bob corff statudol a Sefydliad Addysg gydymffurfio â hi. Mae’n ymateb gan y Llywodraeth i gynorthwyo neu atal pobl rhag cael eu radicaleiddio.
Gallwch gyrchu Polisïau Diogelu a Prevent y Coleg drwy Moodle neu wefan y Coleg.
Mae’r Coleg yn dyfarnu bwrsari o £1000 ym mhob blwyddyn ar gyfer pob myfyriwr AU amser llawn sy’n astudio ar raglen wedi’i rhyddfreinio gan Brifysgol. (Mae meini prawf yn berthnasol)
Os yw aros am gyllid myfyriwr yn achosi caledi, gall myfyrwyr gael mynediad at y gronfa hon os ydynt yn bodloni’r meini prawf.
Cyflogadwyedd a gyrfaoedd – Hybiau’r Dyfodol
Mae Rhaglen y Dyfodol yn gyfres gynhwysfawr o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe.
Ar gyfer materion nad ydynt yn rhai academaidd mae polisïau a gweithdrefnau CGA yn berthnasol. Ar gyfer materion academaidd, cyfeiriwch at bolisïau a gweithdrefnau DSW.
Cymorth i fewngofnodi ar Moodle
Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
Oes gennych chi gwestiwn am wasanaethau PDC?
E-bost: [email protected].
Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth byddwn ni’n ei wneud i chi:
Oes gennych gwestiwn am wasanaethau Coleg Gŵyr Abertawe? Cysylltwch â [email protected]