Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru drwy Grŵp Colegau NPTC, mae'r dudalen hon yn rhoi'r holl gysylltiadau y bydd angen i chi eu defnyddio yn ystod eich amser ar y cwrs. Ymhellach i lawr, gallwch hefyd ddod o hyd i drosolwg o'r cyfrifoldebau a'r cysylltiadau ar gyfer y ddau sefydliad.
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchu Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirio
Mae'r
rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio
Arddull Cyfeirio Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau
Cyfeirio ar gyfer eich cwrs.
Cofrestru PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC gofrestru gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os
ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd
ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau
ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl
Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw briff i rheoliadau a gweithdrefnau prifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae
rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r
disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr o PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, cymwysiadau Office a mwy.
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
Mae cymorth ar gael ar Moodle Grŵp NPTC ac o fewn Microsoft Teams.
Mae Tîm ar gyfer Cymuned Myfyrwyr Addysg Uwch NPTC, ac ychwanegir myfyrwyr wrth iddynt gofrestru. Defnyddir y Tîm i ddarparu gwybodaeth a negeseuon atgoffa ar:
Cysylltwch â [email protected] ag unrhyw ymholiadau.
Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau Grŵp Colegau NPTC? Gofynnwch i'ch Tiwtoriaid Rhaglen a byddant yn eich cynghori! Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar y dudalen ‘Ynglŷn â’ch cwrs’.